Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 11 Mehefin 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
11.03 - 15.05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC John Griffiths AC Altaf Hussain AC Elin Jones AC Gwyn R Price AC Jenny Rathbone AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Vaughan Gething AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru Dr Sarah Watkins, Llywodraeth Cymru Simon Burch, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Parry Davies, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Emma Sands, Cynghrair Henoed Cymru Meleri Thomas, Cynghrair Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru Keith Bowen, Cynghrair Cynhalwyr Cymru Rick Wilson, Cynghrair Cymru ar gyfer Cymorth a Gyfarwyddir gan Ddinasyddion Jim Crowe, Grŵp Cyfeirio Anabledd Samantha Clutton, Barnardo’s Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Christopher Warner (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: cyfarfod anffurfiol â grwpiau cyfeirio
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, Lynne Neagle a Kirsty Williams. Dirprwyodd Jenny Rathbone ar ran Lynne Neagle yn ystod eitemau 2, 3, 4 a 5.
2.2 Mynegodd y Pwyllgor ei gydymdeimlad â Lynne Neagle yn dilyn profedigaeth deuluol.
3 Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 10
3.1 Atebodd y Dirprwy Weinidog gwestiynau gan Aelodau.
3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:
- nodyn yn manylu ar y targedau a'r mesurau penodol a gaiff eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i fesur effeithiolrwydd y £50 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol a sylweddau yn ystod y flwyddyn nesaf (yn enwedig mewn perthynas â darparu gwasanaethau a newid ymddygiad pobl); a
- chopi o'r gwaith ymchwil a wnaed gan Brifysgol Sheffield ynghylch effaith cyflwyno isafswm pris uned yng Nghymru.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod hwn ar gyfer eitemau 5 a 10, ac o'r cyfarfod ar 17 Mehefin 2015 ar gyfer eitemau 1 a 2.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ar nifer o bwyntiau nas trafodwyd yn ystod y cyfarfod.
6 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 1
6.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau.
6.2 Cytunodd y tystion i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor am yr asesiad a gynhaliwyd ganddynt ynghylch yr effaith ar wasanaethau gwybodaeth a chyngor os bydd angen i'r pwynt cyswllt cyntaf fod yn hyfedr o ran cynnal asesiadau.
7 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 2
7.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau.
7.2 Gofynnodd y Cadeirydd i'r tystion rannu eu sylwadau ar yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gaiff ei dosbarthu fel papur i'w nodi ar gyfer y cyfarfod ar 17 Mehefin 2015.
8 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 3
8.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan yr Aelodau.
9 Papurau i’w nodi
9.1 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: gwybodaeth ychwanegol
9.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd.
9.2 Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: gwybodaeth ychwanegol
9.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd.
9.3 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
9.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
10 Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015: trafod y dystiolaeth
10.1 Nododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad, a thrafododd y dystiolaeth a ddaeth i law.
10.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn nodi ei bryderon ynghylch y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â rhan 4 (anghenion cyfarfodydd).